Fel arfer bydd yr holl aseiniadau ar gyfer modiwl yn yr adran Assessment, ond efallai y bydd rhai tiwtoriaid yn eu rhoi mewn adrannau eraill. Cliciwch y ddolen Assessment ar y ddewislen ar y chwith i weld yr ardal Assessment.
Yna, dylech weld rhestr o unrhyw aseiniadau, neu wybodaeth am aseiniadau, ar gyfer y modiwl.
Cliciwch ar yr eicon uwchlwytho aseiniad i’w uwchlwytho neu’r tab Submit. Yna, byddwch yn gweld yr ardal gyflwyno.

- Bydd y dull cyflwyno yn debygol o gynnig yr opsiwn uwchlwytho ffeil yn unig, er efallai y bydd rhai tiwtoriaid hefyd yn cynnig y cyfle i chi ychwanegu testun mewn blwch. Gelwir hyn yn ddull cyflwyno testun neu Text submission.
- Rhowch deitl ar gyfer eich aseiniad.
- Os bydd yr aseiniad yn cynnwys mwy nag un rhan, dewiswch y rhan briodol o’r gwymplen.
- Porwch i ddewis y ffeil i’w huwchlwytho.
- Bydd hefyd angen i chi roi tic yn y blwch Notice sy’n cadarnhau eich bod yn cytuno â rheolau a rheoliadau’r Brifysgol wrth gyflwyno’r gwaith hwn. Sicrhewch eich bod yn darllen y datganiad cyflwyno (Submission Declaration) yn ofalus ymlaen llaw.

Cliciwch y botwm Submit paper i barhau. Yna, byddwch yn cael derbynneb ddigidol.
Pwynt pwysig: Nid ystyrir bod eich aseiniad wedi’i uwchlwytho’n llwyddiannus nes i chi weld y dderbynneb a chael rhif adnabod papur ar gyfer y gwaith a gyflwfynwyd. Noder, caiff copi o’r dderbynneb ei anfon atoch chi mewn neges e-bost hefyd.
Gallwch ddewis Print neu Close i ddychwelyd i’r mewnflwch cyflwyno (Submission Inbox).
Pan fyddwch yn ôl yn yr ardal gyflwyno, byddwch yn gweld teitl yr aseiniad rydych newydd ei uwchlwytho ochr yn ochr â chadarnhad o rif adnabod y papur a dyddiad ac amser cyflwyno’r aseiniad.
Mae modd defnyddio Turnitin ar gyfer ffeiliau testun unigol:
- sy'n llai na 40MB,
- sy'n llai na 400 o dudalennau,
- sy'n cynnwys mwy na 25 o eiriau.
Bydd Turnitin yn creu adroddiadau tebygrwydd ar gyfer:
- HTML
- Microsoft Word (.doc/.docx).
- OpenOffice Text (.odt) (ac eithrio GoogleDocs).
- Ffeil Prosesydd Geiriau Hangul (.hwp).
- Fformat Testun Cyfoethog (.rtf).
- Testun plaen (.txt).
- WordPerfect (.wpd).
- PostScript (.ps).
- PDF (Noder: ffeiliau sydd wedi'u cadw fel PDF o'r gwreiddiol yn unig, peidiwch â defnyddio rhaglenni trosi ffeiliau).
- Microsoft PowerPoint (.ppt, .pptx, .pps a .ppsx) (Noder: Nid yw'n cefnogi nodiadau cyflwyno, fideos sydd wedi'u plannu, animeiddiadau na thestun gydag effeithiau gweledol).
- Microsoft Excel (.xls a .xlsx) (Nodyn: yn arddangos fel pe bai'n ffeil PDF).
Os ydych chi'n creu aseiniad sy'n defnyddio gwahanol fathau o ffeiliau (cyflwyniadau o sawl ffeil, cod, delwedd, fideo, ac ati) fe'ch cynghorir chi i ddefnyddio'r offeryn Blackboard Assignment yn lle.