Hygyrchedd (Ally (Cymraeg))

Dysgwch eich ffordd eich hun gyda ALLY

Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi drosi ffeiliau a uwch lwythwyd i Blackboard gan eich darlithwyr i amrywiaeth eang o fformatau gwahanol, gan gynnwys ffeiliau mp3 ac ePub, ar alw?


Gallwch lawr lwytho eich hoff fformat unrhyw le y gwelwch eicon fformat amgen ALLY ar Blackboard - gwych ar gyfer dysgu eich ffordd eich hun wrth fynd. Dewiswch o:

Ar gyfer pob ffeil

  • HTML - ddim eisiau defnyddio'ch data i lawr lwytho'r ddogfen fawr neu'r cyflwyniad? Troswch i HTML i'w weld yn hawdd ar borwr gwe neu ddyfais symudol.
  • ePUB - Well gennych ddefnyddio dyfais e-Inc neu ap darllen llyfrau, lle gallwch chi amlygu testun a gwneud nodiadau? Troswch y ffeil i ePub a'i defnyddio gyda'ch hoff feddalwedd.
  • Braille electronig - angen eich dogfennau mewn Braille electronig? Bydd hwn yn trosi i fersiwn BRF i'w ddefnyddio gydag arddangosiadau Braille electronig.
  • Clywedol - ei chael yn haws i wrando? Mae ALLY yn creu fersiynau mp3 o ddogfennau cwrs fel y gallwch ddysgu wrth symud.
  • Darllenydd BeeLine - yn newid lliw testun mewn dogfen i'w gwneud yn haws i chi ganolbwyntio ar y geiriau sy'n cael eu darllen, yn ddefnyddiol os byddwch yn aml yn colli golwg ar ble rydych chi ar dudalen neu ar gyfer darllen cyflym. Gwelwch sut mae BeeLine Reader yn gweithio.
  • Fersiwn wedi'i gyfieithu - well gennych ddarllen yn eich iaith gyntaf? Gall ALLY gyfieithu dogfennau cwrs i 30 o ieithoedd gwahanol.
  • Darllenydd Inline (ar lein yn unig) - ffeindio darllen yn her neu angen rhywfaint o help gyda dealltwriaeth? Mae'r fformat hwn yn agor y ffeil mewn porwr gwe, lle bydd yn darllen eich dogfen yn uchel i chi, yn caniatáu ichi newid ffont, maint a bylchau'r testun, ac ychwanegu lliw cefndir i'ch dogfennau i'w gwneud yn haws i'w darllen. Gall hefyd amlygu sillafau i’ch helpu i ddeall ynganiad, a labelu enwau, berfau, ansoddeiriau ac adferfau i’ch helpu gyda’ch gramadeg.

Ar gyfer creu neu wella ffeiliau PDF

  • Ffeiliau PDF wedi'i dagio - trowch ffeiliau Word, PowerPoint ac OpenOffice yn ffeiliau PDF strwythuredig fel eu bod yn gweithio'n well gyda darllenwyr sgrin.
  • OCR PDF – trowch ddogfen gwrs wedi’i sganio yn un y gellir ei chwilio ac sy’n haws ei darllen.

Sut i lawr lwytho fformatau amgen 
gan ddefnyddio Blackboard Ally

Sut i lawr lwytho fformatau ffeil amgen gan ddefnyddio Blackboard Ally

Pa fformat ddylwn i'w ddefnyddio?

Ddim yn siŵr pa fformat i'w lawr lwytho?
Mae'r dudalen arweiniad ALLY i Fyfyrwyr hon yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am y mathau o fformatau a sut y gallwch eu defnyddio.

blackboard-ally-studen