Polisïau a Rheoliadau

Mae’r telerau ac amodau hyn yn berthnasol i drafodion ar-lein a wneir gyda Phrifysgol De Cymru ar gyfer prynu credyd argraffu.

Darparu credyd argraffu

  • Fel arfer caiff eich cyfrif argraffu ei gredydu o fewn uchafswm o awr ar ôl cael eich hysbysu bod y taliad wedi’i awdurdodi gan eich darparwr cerdyn debyd neu gredyd.
  • Ni allwn dderbyn atebolrwydd am daliad nad yw’n cael ei gredydu i’ch cyfrif argraffu am eich bod wedi rhoi’r manylion anghywir.
  • Os na fyddwch yn derbyn credyd argraffu, dylech hysbysu Gwasanaethau Argraffu a Dylunio Prifysgol De Cymru, sydd wedi’i leoli ar Central Avenue campws Trefforest yn L001, [email protected] o fewn 24 awr i gwblhau’r trafodiad.

Ad-daliadau

  • Mae’n rhaid gwneud ceisiadau am ad-daliadau sy’n ymwneud â gwasanaethau Argraffu a Dylunio Prifysgol De Cymru drwy anfon e-bost at [email protected].
  • Dim ond i’r cerdyn credyd / debyd a ddefnyddiwyd i brynu’r credyd argraffu y caiff ad-daliadau Credyd Argraffu Prifysgol De Cymru eu gwneud, a hynny ar-lein. Caiff ad-daliadau eu gwneud o fewn 5 diwrnod gwaith i’r cais. Ni fydd y Brifysgol yn derbyn unrhyw atebolrwydd am gyflwyno ad-daliadau yn hwyr.
  • Dim ond credydau argraffu a brynwyd yn electronig y gellid eu had-dalu. Ni wneir unrhyw ad-daliadau am gredydau a brynwyd o giosgau arian parod o fewn y llyfrgelloedd a’r ystafell TG.
  • Ni wneir unrhyw ad-daliadau am falansau credyd a brynwyd yn electronig sy’n werth llai na £5.00.
  • Pan wneir cais am ad-daliad, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i ddebydu swm llawn yr ad-daliad o gyfrif argraffu’r myfyriwr cyn rhoi’r ad-daliad ar gerdyn debyd/credyd y myfyriwr.
  • Dim ond am werthoedd hyd at y trafodiad prynu diwethaf sy’n ymddangos ar gyfrif argraffu’r myfyriwr y caiff ad-daliadau eu gwneud. Os bydd cyfrif y myfyriwr yn parhau i fod mewn credyd ar ôl yr ad-daliad cychwynnol, gall y myfyriwr ailadrodd y broses o wneud cais am ad-daliad nes bod balans y cyfrif wedi’i glirio.
  • Mae’n rhaid canslo pryniannau credyd argraffu o fewn 7 diwrnod i gwblhau’r broses o brynu credyd er mwyn bod yn gymwys i gael ad-daliad llawn. Ni fydd gan y unrhyw rwymedigaeth neu atebolrwydd i’r Brifysgol. Fodd bynnag, ni ellir canslo os bydd credydau argraffu wedi’u defnyddio eisoes. Os bydd angen ad-daliad oherwydd canslo pryniannau, mae’n rhaid i’r myfyriwr anfon e-bost at [email protected].

Canslo

  • Gallwch ganslo eich pryniant o fewn 7 diwrnod gwaith i gwblhau eich pryniant heb rwymedigaeth neu atebolrwydd i’r Brifysgol. Fodd bynnag, ni allwch ganslo eich pryniant ar ôl i chi ddechrau ei ddefnyddio. Os byddwch eisiau canslo, yna mae’n rhaid dilyn y polisi ad-dalu.

Talu

  • Bydd systemau prynu credyd i argraffu ar-lein y Brifysgol yn eich hysbysu am ganlyniad y trafodiad talu drwy dudalen we ar ôl rhoi manylion eich cerdyn. Os bydd y trafodiad yn llwyddiannus, anfonir derbynneb dros e-bost hefyd i’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cyfeiriad e-bost a ddarperir yn gywir. Ni all y Brifysgol dderbyn atebolrwydd os caiff taliad ei wrthod gan gyflenwr eich cerdyn credyd/debyd am unrhyw reswm.
  • Os bydd cyflenwr eich cerdyn yn gwrthod gwneud taliad, nid yw’r Brifysgol o dan rwymedigaeth i egluro’r rheswm pam. Mewn amgylchiadau o’r fath, dylech gysylltu â chyflenwr eich cerdyn credyd/debyd.
  • Os bydd cyflenwr eich cerdyn yn gwrthod gwneud taliad, rhoddir cyfle i chi ddefnyddio cerdyn arall neu gallwch ganslo’r trafodiad.
  • Ni fydd trafodiadau sydd wedi’u canslo yn ymddangos ar eich hanes trafodiadau.

Cyffredinol

  • Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i ganslo’r gwasanaeth mewn achos o streic, cloi allan, anhrefn, tân, ffrwydrad, damwain neu orfod stopio neu achos sy’n effeithio ar fusnes neu waith y Brifysgol sydd y tu hwnt i’w rheolaeth resymol ac sy’n atal neu’n rhwystro’r posibilrwydd o gredydu eich cyfrif argraffu.
  • Mae’r holl gynnwys, gan gynnwys lluniau, dyluniadau, logos, ffotograffau, testun a ysgrifennwyd a deunyddiau eraill ar wefan y Brifysgol yn berchen i ac yn cael eu rheoli neu eu trwyddedu gan y Brifysgol neu ei chyflenwyr. Cânt eu hamddiffyn gan hawlfraint, nodau masnach a hawliau eiddo deallusol eraill. Caiff gwefan y banc ei hamddiffyn yn yr un modd. Ni chaniateir defnyddio’r cynnwys hwn heb awdurdod.
  • Dim ond at ddibenion cofnodi eich taliad y caiff y data a ddarperir yn ystod y trafodiad ei ddefnyddio. Byddwn yn cadw at egwyddorion Deddf Diogelu Data 1998 a sicrhau nad yw’r data yn cael eu defnyddio at unrhyw ddiben arall na’u datgelu i drydydd parti, oni fydd rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyfer y datgeliad hwnnw.
  • Ni fydd y Brifysgol yn atebol am unrhyw fethiant gan y myfyriwr neu unrhyw drydydd parti sy’n gwneud taliad i ddiogelu’r data yn briodol rhag cael ei weld ar y sgrin gan bobl eraill neu rhag i bobl eraill gael gafael arnynt mewn ffyrdd eraill, yn ystod y broses o Dalu Ar-lein neu mewn perthynas â pheidio â darparu gwybodaeth gywir yn ystod y broses o Dalu Ar-lein.
  • I’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith, mae’r Brifysgol yn darparu’r wefan hon, ei chynnwys a’i chyfleuster talu am argraffu ar-lein ar sail ‘fel ag y mae’ ac nid yw’n gwneud unrhyw gynrychioliadau neu warantau (ac mae’n gwadu unrhyw gynrychioliadau neu warantau) o unrhyw fath, a fynegir neu a awgrymir, mewn perthynas â’r wefan hon neu’r wybodaeth, cynnwys, cynnyrch neu wasanaethau a gynhwysir yn y wefan hon.
  • Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i roi terfyn ar y trafodiad os na fydd porth talu’r masnachwr ar gael. Yn yr achos hwn, byddai’r Brifysgol yn cynghori nad oes unrhyw daliad wedi cael ei gymryd o’r cyfrif a dylai’r trafodiad gael ei wneud yn ddiweddarach.
  • Mae’r contract hwn yn gontract rhwng y Prynwr a’r Brifysgol. Pan fydd y Prynwr yn ymweld â’r wefan hon neu’n anfon negeseuon e-bost at y Brifysgol, mae’r Prynwr yn cyfathrebu â’r Brifysgol yn electronig. Bydd y Brifysgol yn cyfathrebu â’r Prynwr drwy e-bost. At ddibenion cytundebol, mae’r Prynwr yn rhoi caniatâd i dderbyn negeseuon oddi wrth y Brifysgol yn electronig ac yn cytuno bod unrhyw gytundeb, hysbysiad, datgeliad neu ohebiaeth arall a ddarperir gan y Brifysgol i’r Prynwr yn electronig yn bodloni unrhyw ofyniad cyfreithiol sy’n nodi bod angen i ohebiaeth o’r fath fod yn ysgrifenedig. Nid yw’r amod hwn yn effeithio ar hawliau statudol y Prynwr.
  • Os na ellid gorfodi unrhyw ran o’r telerau hyn, ni fydd hynny’n effeithio ar orfodadwyedd unrhyw ran arall o’r amodau hyn.
  • Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i amrywio’r Telerau ac Amodau hyn o bryd i’w gilydd. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn eich hysbysu drwy gyhoeddi’r Telerau ac Amodau newydd ar y wefan. Eich cyfrifoldeb chi yw adolygu’r rhain yn rheolaidd cyn prynu er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau. Os nad ydych yn dymuno cael eich llywodraethu gan y Telerau ac Amodau diwygiedig, ni ddylech wneud rhagor o bryniannau.
  • Caiff y contract ei lywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth unigryw i ymdrin ag unrhyw anghydfod a allai godi o’r contract neu mewn perthynas â’r contract hwnnw.

Mae Prifysgol De Cymru (“y Brifysgol”) wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd holl ddefnyddwyr y wefan hon. Mae’r polisi hwn yn gymwys i holl wefannau’r Brifysgol a’r ffordd rydym yn rheoli a diogelu gwybodaeth a gawn gan y bobl sy’n defnyddio’r wefan hon.

Drwy ddefnyddio a chyflwyno gwybodaeth i’r wefan hon, rydych yn cydsynio i’r Brifysgol gasglu a dal gwybodaeth yn unol â’r polisi hwn. Gall y polisi newid, a chaiff unrhyw newidiadau yn y dyfodol eu cyfleu ar y dudalen hon.

Pa wybodaeth a gesglir?

Nid oes angen i chi gofrestru na rhoi unrhyw wybodaeth bersonol pan fyddwch yn ymweld â gwefan Prifysgol De Cymru i ddarllen gwybodaeth neu ei llwytho. Dim ond pan fyddwch yn ymwybodol eich bod wedi darparu gwybodaeth bersonol y bydd y wybodaeth honno yn cael ei chasglu (enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn ac ati). 

Caiff rhai mathau arbennig o wybodaeth eu casglu’n awtomatig pryd bynnag y byddwch yn edrych ar y wefan hon. Y wybodaeth a gawn yn awtomatig yw:

  • Yr URL y gwneir cais amdano (Lleolydd Adnoddau Unffurf )
  • Cyfeiriad IP (Protocol y Rhyngrwyd) (gallai hyn ganfod cyfrifiadur penodol neu beidio)
  • Enw’r parth a ddefnyddir gennych i ddefnyddio’r rhyngrwyd
  • Yr URL sy’n eich cyfeirio
  • Meddalwedd (porwr / system weithredu) a ddefnyddir i agor y dudalen
  • Dyddiad ac amser yr ymweliad â’r tudalennau

Defnydd Prifysgol De Cymru o gwcis

Cwcis yw ffeiliau bach o destun a gaiff eu rhoi ar eich cyfrifiadur gan wefannau yr ydych yn ymweld â hwy. Cânt eu defnyddio’n helaeth er mwyn gwneud i wefannau weithio, neu weithio’n fwy effeithiol, yn ogystal ag i ddarparu gwybodaeth i berchnogion y wefan.

Ceir disgrifiad isod o’r mathau o gwcis a ddefnyddir gan Brifysgol De Cymru, gan gynnwys cwcis o safleoedd trydydd parti a ddefnyddir gennym i sicrhau gweithrediad penodol ar ein gwefannau.

Cwcis Sesiynau Prifysgol De Cymru

Mae Prifysgol De Cymru yn defnyddio nifer o fframweithiau gwe i greu a darparu gwefannau. Mae’r rhan fwyaf o’r fframweithiau hyn yn darparu cwcis sesiynau i gyfrifiadur y defnyddiwr. Mae’r cwcis hyn yn eich galluogi i symud drwy’r rhan fwyaf o’n safleoedd diogel heb orfod mewngofnodi ar systemau gwahanol dro ar ôl tro.

Google Analytics

Mae Prifysgol De Cymru yn defnyddio Google Analytics, sef gwasanaeth dadansoddeg ar y we a ddarperir gan Google, Inc. Mae Google Analytics yn gosod cwci er mwyn gwerthuso eich defnydd o’n gwefannau ac mae’n llunio adroddiad i ni ar weithgarwch ar ein gwefannau.

Mae Google yn cadw’r wybodaeth a gesglir gan y cwci ar weinyddion yn yr Unol Daleithiau. Gall Google drosglwyddo’r wybodaeth hon hefyd i drydydd parti pan fo hynny’n orfodol yn ôl y gyfraith, neu pan fydd y trydydd parti yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google. Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata arall sydd gan Google. Drwy ddefnyddio gwefannau Prifysgol De Cymru, rydych yn cydsynio i Google brosesu unrhyw ddata amdanoch yn ôl y modd a’r dibenion y cyfeirir atynt uchod.

Sut i wrthod neu ddileu’r cwci yma

Cwcis a osodir gan safleoedd trydydd parti

Er mwyn cynnal cynnwys ein gwefannau, rydym o bryd i’w gilydd yn mewnblannu lluniau, fideo neu gynnwys testun o wefannau fel YouTube a Flickr. O ganlyniad i hyn, pan fyddwch yn ymweld â thudalen sydd â chynnwys wedi’i fewnblannu o YouTube neu Flickr, er enghraifft, efallai y cewch gwcis o’r gwefannau hyn. Nid Prifysgol De Cymru sy’n rheoli dosbarthu’r cwcis hyn. Dylech edrych ar wefan y trydydd parti perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am y rhain.

Blackboard

Mae Blackboard yn defnyddio cwcis at ddibenion dilysu / mewngofnodi, a chlymu ceisiadau defnyddwyr ynghyd i sesiwn fel sydd ei angen yn unol â gweithrediad rhaglen y we. Cwcis gweithredol yn unig ydynt, a ni chaiff unrhyw wybodaeth o gwbl am ddefnyddwyr ei chadw ar ein cwcis. Felly ni chaiff dim o hynny ei gadw ar gyfrifiaduron defnyddwyr ychwaith.

Mae cadw llygad ar weithgarwch y defnyddiwr at ddibenion graddio / archwilio yn rhan hanfodol o’r rhaglen. Ni wneir hyn drwy gwcis, ond mae’n gysylltiedig â chofnod dilysrwydd y defnyddiwr.

Ar y cyfan, mae data a gyflwynir gan ddefnyddiwr o fewn cyrsiau yn ddata y gellir eu hadnabod yn ôl defnyddiwr – gan fod hynny’n angenrheidiol at ddibenion graddio. Efallai bod rhyngweithio dienw yn bosibl ar gyfer rhai gweithgareddau, yn ôl disgresiwn yr hyfforddwr.

Caiff cadw data o’r fath a gyflwynir gan ddefnyddwyr ei lywodraethu gan bolisïau sefydliadaol ar gyfer cadw cofnodion academaidd a ni chaiff ei rheoli gan Blackboard.

Ni chaiff unrhyw ddata Blackboard Learn am ddefnyddwyr eu cadw’n ganolog gan Blackboard Inc., ac eithrio gwasanaethau a weinyddir yn ganolog fel Blackboard Mobile a SafeAssign lle mae angen cadw gwybodaeth am ddefnyddwyr, gan gynnwys manylion cyswllt neu gofnod cyflwyno dogfennau. Nid yw’r wybodaeth hon, fodd bynnag, ar gael i unrhyw un arall, ac nid yw Blackboard yn rhannu’r data hyn ag unrhyw drydydd parti.

Fodd bynnag gallai blociau adeiladu trydydd parti a osodwyd ar y system gysylltu eich cyfrif defnyddiwr Blackboard â gweinyddion trydydd parti sydd hefyd yn cadw gwybodaeth am ddefnyddwyr. Nid Blackboard sy’n rheoli dosbarthu’r wybodaeth hon. Dylech edrych ar wefan y trydydd parti perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am y rhain.

Gwrthrychau Dysgu

Mae gwrthrychau dysgu yn defnyddio cwcis sesiynau i gofio manylion sesiynau, yn ogystal â chwci a ddarperir gan y cyd-bwyswr llwyth mewnol i glymu sesiwn i nod arbennig. Gosodir cwci gweld bwrdd gwaith hefyd, os yw’r client yn ddyfais symudol ac yn newid i weld bwrdd gwaith. Ar ben hyn, gosodir cwcis eraill i ddilyn y sefyllfa fewngofnodi gyffredinol at ddibenion canfod terfyn amser y sesiwn, ac anfon y cyfeiriwr yn gywir i’r brif wefan pan fydd client yn clicio ar ddolen o fewn blog neu dudalen wiki penodol.

eFfrwd

Mae eFfrwd yn defnyddio cwcis i gofnodi gwybodaeth am y sesiwn, a chadw cofnod penodol am ddefnyddwyr, fel dilysu, gosodiadau cyffredinol a chaniatâd.

Sut i newid eich gosodiadau cwci

Gallwch fynd i’r wefan hon i newid eich gosodiadau. Dewiswch y ddolen briodol i’r porwr a ddefnyddiwch.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Mae’r wybodaeth a ddarperir gennych yn galluogi’r Brifysgol i ddadansoddi’r wybodaeth er mwyn cyflenwi’r gwasanaethau y gwnaethoch gais amdanynt ac er mwyn i ni allu rheoli a gwella’r gwasanaethau ar y wefan. Gan ddefnyddio’r data mewngofnodi, rydym yn dadansoddi gwybodaeth ddemograffig a gwybodaeth ystadegol arall am ymddygiad y defnyddiwr er mwyn dadansoddi pa mor boblogaidd ac effeithiol yw ein gwefan.

Mae’r Brifysgol hefyd yn defnyddio gwasanaethau gan Google a Gravatar ar y wefan hon. I gael rhagor o wybodaeth am eu polisïau preifatrwydd, ewch i wefannau Google a Gravatar.

Ni fydd y Brifysgol (ac ni fydd yn caniatáu i unrhyw drydydd parti) ddefnyddio’r offerynnau dadansoddi ystadegol i ganfod na chasglu gwybodaeth a allai ganfod pwy yw’r ymwelwyr â’r wefan hon. Ni fyddwn yn gwerthu, trwyddedu na masnachu eich gwybodaeth bersonol i gwmnïau marchnata uniongyrchol na sefydliadau eraill o’r fath.

Bydd y Brifysgol yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol a roddir gennych ac unrhyw wybodaeth arall amdanoch, ac efallai y bydd yn ei defnyddio at ei dibenion marchnata ei hun.

Diogelwch

Mae’r Brifysgol yn defnyddio mesurau diogelwch i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol rhag cael ei defnyddio heb awdurdod, a rhag cael ei chanfod na’i datgelu.

Rydym yn defnyddio dulliau priodol i sicrhau bod y wybodaeth a ddatgelir i ni yn cael ei chadw’n ddiogel, yn gywir ac yn gyfredol, ac yn cael ei chadw am yr hyd priodol at y dibenion y caiff ei defnyddio.

Datgelu eich gwybodaeth

Bydd pobl awdurdodedig yn y Brifysgol yn gallu cael gafael ar y wybodaeth a roddwch i ni. Efallai y byddwn hefyd yn datgelu eich gwybodaeth i drydydd parti fel darparwyr gwasanaethau, asiantau a sefydliadau cysylltiedig sy’n gweithredu ar ein rhan at y dibenion a nodir o fewn y polisi hwn. Gwaherddir pob trydydd parti rhag defnyddio’r wybodaeth hon ac eithrio er mwyn darparu’r gwasanaethau hyn i’r Brifysgol.

Caiff y wybodaeth a ddarperir gennych ei chadw ar ein cyfrifiaduron yn y DU. Gall trydydd parti gael gafael arni neu gellir ei rhoi i drydydd parti a allai fod y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd sy’n gweithredu ar ein rhan at y dibenion a nodir o fewn y polisi hwn. Byddwn yn gweithredu bob amser i sicrhau y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gan drydydd parti yn unol ag amodau’r polisi preifatrwydd hwn.

Ac eithrio fel y nodir yn y polisi hwn, ni fyddwn, fel arall, yn rhannu, yn gwerthu, nac yn dosbarthu unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych heb eich cydsyniad chi, oni bai bod hynny’n orfodol neu y caniateir hynny yn ôl y gyfraith.

Dolenni i wefannau allanol

Dim ond mewn cysylltiad â gwefan Prifysgol De Cymru y mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol, gallai’r wefan hon gynnwys dolenni i wefannau eraill sydd y tu allan i reolaeth y Brifysgol ac nad ydynt yn rhan o’r polisi preifatrwydd hwn.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y polisi preifatrwydd hwn neu’r modd y caiff eich gwybodaeth bersonol ei thrin neu ei rheoli, cysylltwch â’r:

Rheolwr Cydymffurfiaeth Gwybodaeth

Y Ganolfan Adnoddau Dysgu

Prifysgol De Cymru

Pontypridd

CF37 1DL

E-bost: [email protected]