I gael mynediad o bell i’ch cyfrifiadur personol Windows o gyfrifiadur arall (neu oddi ar y campws) bydd angen i’ch cyfrifiadur personol gael ei gyflunio yn y lle cyntaf i ganiatáu cysylltiadau o bell.
Camau cychwynnol ar gyfer cael mynediad i’ch cyfrifiadur personol yn y swyddfa.
Yn y lle cyntaf, dylech gofrestru eich cyfrifiadur personol yn y swyddfa ar gyfer y gwasanaeth Wake On Lan Service (WOL)
Bydd angen i chi wneud nodyn o enw eich cyfrifiadur y gallwch ddod o hyd iddo drwy glicio ddwywaith ar y botwm llwybr byr ar eich bwrdd gwaith.
Fel arall, gallwch wneud hyn drwy dde glicio ar My Computer a dewis y nodweddion.
Defnyddio’r adnodd Bwrdd Gwaith o Bell.
Os byddwch oddi ar y campws bydd angen i chi redeg y cleient VPN yn gyntaf, y gallwch gael gwybodaeth amdano ar dudalen gwasanaeth mynediad o bell (Remote Acccess neu VPN) PDC
I lansio’r Cymhwysiad Bwrdd Gwaith o Bell:
1. DewiswchStart, All Programmes (Windows 7) neu All Apps (Windows 10)
2. Nawr dewiswch Accessories neu Windows accessoriesa chliciwch ddwywaith ar y cymhwysiad Remote Desktop Connection
3. Yn y ffenestr sy’n agor, teipiwch enw’r cyfrifiadur rydych eisiau cysylltu ag ef.
4. Nawr dewiswch Connect.
5. Byddwch nawr yn cael eich cysylltu â’ch cyfrifiadur personol yn y swyddfa a gofynnir i chi am eich enw defnyddiwr a chyfrinair unwaith eto.
Os ydych yn defnyddio iMac neu MacBook bydd angen i chi ddefnyddio Bwrdd Gwaith o Bell Microsoft y gellid ei lawrlwytho o’r siop apiau (App Store).
1. Lansio Bwrdd Gwaith o Bell Microsoft drwy fynd i Go > Applications.
2. Cliciwch + New
3. Teipiwch enw’r cysylltiad (h.y. Cyfrifiadur Personol Gwaith).
4. Teipiwch enw llawn eich cyfrifiadur i’r maes enw cyfrifiadur personol ac yna caewch y blwch deialog.
5. Cliciwch ar y dde ar y rhestr o gyfrifiaduron personol yn y rhestr a dewiswch Start. Cewch eich annog am enw defnyddiwr a chyfrinair.
NODER: Os byddwch yn profi unrhyw broblemau wrth fewngofnodi ar y cam hwn, ceisiwch ychwanegu’r rhagddodiad prifysgol\ i’ch enw defnyddiwr ee prifysgol\jrhartley yn hytrach na dim ond jrhartley.
Gallwch nawr ddefnyddio eich cyfrifiadur personol yn y swyddfa a’i holl raglenni a chymwysiadau o bell.
I adael y cysylltiad Bwrdd Gwaith o Bell
1. Dewiswch y botwm Starta dewiswch Windows Security(mae gan hyn yr un swyddogaeth â gwasgu Alt, Ctrl a Delete os oeddech wrth y cyfrifiadur yn gorfforol).
2. Bydd dewislen yn agor gydag opsiynau fel Lock WorkStation, Log Off a Shut Down.
3. DewiswchLog Offos ydych yn bwriadu defnyddio’r cyfrifiadur personol eto ar yr un diwrnod neu Shut Downa bydd eich cyfrifiadur personol yn cau i lawr.
Bydd y ddau ddewis yn cau’r holl raglenni a bydd eich sesiwn o bell yn dod i ben.