Rhwydwaith Wi-Fi rhyngwladol a ddefnyddir gan sefydliadau academaidd ac ymchwil yw eduroam. Mae hyn yn golygu y gallwch ymweld â phrifysgolion eraill a chael cysylltiad â’r rhyngrwyd, heb orfod newid eich manylion mewngofnodi. Os byddwch yn newid eich cyfrinair, cofiwch y bydd yn rhaid i chi ddiweddaru eich gosodiadau eduroam hefyd.
Gellid cyflunio dyfeisiau yn awtomatig ac yn ddiogel drwy ymweld â CAT eduroam.
Os ydych yn ddefnyddiwr Android rydym yn eich cynghori i lawrlwytho’r ap CAT eduroam.
Nid yw CAT eduroam yn cefnogi Ffonau Windows, felly dilynwch y cyfarwyddiadau isod.
Mae gwasanaeth Wi-Fi Guest PDC ar gael i staff i roi mynediad Wi-Fi i ymwelwyr â'r Brifysgol.
Er mwyn noddi mynediad gwestai ar gyfer y gwasanaeth, gwnewch yn siŵr eich bod wedi'ch cysylltu â Wi-Fi PDC ar y campws neu gysylltu â Cisco AnyConnect VPN cyn cyrchu'r Porth Wi-Fi Gwestai.
Ewch i'r ddolen ganlynol ar wefan PDC Guest a dilynwch yr awgrymiadau ar y sgrin i greu cyfrif.
Os na fyddwch yn gallu cysylltu o hyd, ewch i ddesg wasanaeth eich campws i gael cymorth wyneb i wyneb