Agorwch yr app Outlook ar eich dyfais.
Os nad ydych wedi defnyddio Outlook ar eich dyfais o'r blaen, fe'ch anogir i ychwanegu neu greu cyfrif - cliciwch "Ychwanegu cyfrif" i barhau.

(Os ydych chi wedi defnyddio Outlook ar eich dyfais o'r blaen, bydd angen i chi glicio ar yr eicon ychwanegu cyfrif ar ochr chwith uchaf y sgrin i ychwanegu cyfrif newydd)

Yna bydd Outlook yn gwirio i weld pa gyfrifon rydych chi wedi'u sefydlu ar eich dyfais ar hyn o bryd. Cliciwch Parhau, i fynd ymlaen i'r cam nesaf.

Nesaf, rhowch eich cyfeiriad e-bost Prifysgol a chliciwch nesaf.

Yna rhowch eich cyfrinair cyfrif

a chcôd dilysu

Nesaf bydd angen i Outlook wirio'r gosodiadau diogelwch ar eich dyfais, er mwyn sicrhau ei bod yn ddiogel i chi gael mynediad i'ch cyfrif gan ddefnyddio'r ddyfais hon.
Cliciwch "Activate" pan ofynnir i chi, i ganiatáu i Outlook gwblhau'r gwiriad hwn.


Os nad oes gennych gyfrinair neu PIN wedi'i osod ar eich dyfais yn barod, fe'ch anogir nesaf i sefydlu un.
Dewiswch yr opsiwn sydd fwyaf cyfleus i chi, a dilynwch yr awgrymiadau ar y sgrin i osod eich cyfrinair neu PIN.

Unwaith y bydd yn ddiogel, bydd Outlook yn gofyn ichi sut rydych chi am dderbyn hysbysiadau o'r app. Er y byddem yn argymell dewis Cuddio Cynnwys Sensitif, dewiswch yr opsiwn sydd fwyaf addas i chi.
A dyna ni. Gallwch nawr ddewis ychwanegu cyfrif e-bost arall, neu glicio Efallai yn ddiweddarach i fynd yn syth i'ch blwch post.
