Gall defnyddio’r peiriannau argraffu ym Mhrifysgol De Cymru am y tro cynaf fod yn frawychus, ond mae’n hawdd iawn mewn gwirionedd!
Y cam cyntaf yw anfon eich ffeil i’w hargraffu. Gallwch wneud hyn mewn dwy ffordd: ei hanfon i’w hargraffu o gyfrifiadur y brifysgol, neu ei hanfon i’w hargraffu o’ch dyfais bersonol.
Os byddwch yn anfon ffeil i’w hargraffu o gyfrifiadur y brifysgol, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw clicio ar File yna Print.
Am ffordd gryno, pwyswch Ctrl+P ar gyfrifiadur personol neu Command+P ar Mac.
Sicrhewch fod y disgrifiad o’r gyrchfan yn Student Print neu Staff Print neu rywbeth tebyg.
Gwiriwch bod cynllun y dudalen yn gywir ac yna cliciwch Print.
Rhowch eich cerdyn adnabod prifysgol ar y darllenydd cardiau NEU teipiwch eich manylion mewngofnodi ar y sgrin.
Cliciwch Print
Dewiswch eich ffeil
Print+Delete
Allgofnodi
Argraffu o unrhyw le